4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda'r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
5 Paham, fy enaid, y'th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Misar.
7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi,
8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a'i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes.
9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?