6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Misar.
7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriaint a aethant drosof fi,
8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a'i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes.
9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
11 Paham y'th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a'm Duw.