1 Duw, clywsom â'n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
2 Ti â'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a'u cynyddaist hwythau.
3 Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.
4 Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.
7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.