11 Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.
12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'u gwerth hwynt.
13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.
14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.
15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm todd:
16 Gan lais y gwarthruddwr a'r cablwr; oherwydd y gelyn a'r ymddialwr.
17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni'th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.