18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o'th lwybr di;
19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau.
20 Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:
21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
22 Ie, er dy fwyn di y'n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i'w lladd.
23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.
24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a'n gorthrymder?