22 Ie, er dy fwyn di y'n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i'w lladd.
23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.
24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a'n gorthrymder?
25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.
26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.