5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.
7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.
8 Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.
9 Ond ti a'n bwriaist ni ymaith, ac a'n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda'n lluoedd.
10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.
11 Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.