1 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i'r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
2 Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y'th fendithiodd Duw yn dragywydd.
3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â'th ogoniant a'th harddwch.
4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.
5 Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.