10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.
11 A'r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.
13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.
14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.
15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.
16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.