4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.
5 Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
6 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.
7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.
8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o'r palasau ifori, â'r rhai y'th lawenhasant.
9 Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.