1 Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.
2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a'r cenhedloedd dan ein traed.
4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.
5 Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.
6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.
7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.