6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.
7 Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.
8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.
9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.