1 Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod.
2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddïaf.
3 Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
4 Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.
6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a'r twyllodrus.
7 A minnau a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua'th deml sanctaidd yn dy ofn di.