6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a'r twyllodrus.
7 A minnau a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua'th deml sanctaidd yn dy ofn di.
8 Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o'm blaen.
9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â'u tafod.
10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i'th erbyn.
11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a'r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.