1 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.
3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o'i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o'i amgylch.
4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela.