14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i'r Goruchaf dy addunedau:
15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.
16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?
17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl.
18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a'th gyfran oedd gyda'r godinebwyr.
19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th dafod a gydbletha ddichell.
20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.