19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th dafod a gydbletha ddichell.
20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyhoeddaf, ac a'u trefnaf o flaen dy lygaid.
22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.
23 Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.