2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.
3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o'i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o'i amgylch.
4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela.
7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi.
8 Nid am dy aberthau y'th geryddaf, na'th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.