9 Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.
10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.
11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.
12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a'i gyflawnder sydd eiddof fi.
13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?
14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i'r Goruchaf dy addunedau:
15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.