11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.
13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14 Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15 Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16 Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
17 Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.