6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
7 Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.
8 Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
10 Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.
11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.