6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.
7 A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.
8 Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.
10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.
11 Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
12 Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.