7 Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
9 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.