3 O'r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o'r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;
5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.
6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc.
7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.
8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.
9 Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.