4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i'm cymorth, ac edrych.
5 A thi, Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â'r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.
6 Dychwelant gyda'r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
7 Wele, bytheiriant â'u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?
8 Ond tydi, O Arglwydd, a'u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa.
10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.