7 Wele, bytheiriant â'u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?
8 Ond tydi, O Arglwydd, a'u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
9 Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa.
10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
11 Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian.
12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a'r celwydd a draethant.
13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.