1 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
2 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd?
4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a'th folianna?
6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.
7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.