6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.
7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.
9 Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.
10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.