1 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.
2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4 Preswyliaf yn dy babell byth: a'm hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.