2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4 Preswyliaf yn dy babell byth: a'm hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.
5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.
6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.
7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.