2 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth, a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.
3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
4 Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u mewn y melltithiant. Sela.
5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
6 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.
7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa, sydd yn Nuw.
8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela.