5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:
6 Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.
9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.