3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?
6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
7 Eithr Duw a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
8 Felly hwy a wnânt i'w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.
9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef.