10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.
12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
13 Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,
14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.
16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.