16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
17 Llefais arno â'm genau, ac efe a ddyrchafwyd â'm tafod.
18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.
19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.
20 Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.