5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.
8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef:
9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.
10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.