8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef:
9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.
10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.
12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
13 Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,
14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.