3 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.
4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
5 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.
6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a'n bendithia.
7 Duw a'n bendithia; a holl derfynau y ddaear a'i hofnant ef.