17 Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr.
18 Dyrchefaist i'r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i'r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith.
19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela.
20 Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;
23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.