23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr.
25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.
26 Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
27 Yno y mae Benjamin fychan â'u llywydd, tywysogion Jwda â'u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.
28 Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.
29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.