32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela:
33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.
34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.
35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o'th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i'r bobl. Bendigedig fyddo Duw.