7 Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:
8 Y ddaear a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.
9 Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blino.
10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.
11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.
12 Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail.
13 Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.