1 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.
2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.
3 Ymddatododd y ddaear, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
6 Canys nid o'r dwyrain, nac o'r gorllewin, nac o'r deau, y daw goruchafiaeth.
7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.