8 O'r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,
9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.
10 Diau cynddaredd dyn a'th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.
11 Addunedwch, a thelwch i'r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o'i amgylch ef, dygant anrheg i'r ofnadwy.
12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.