1 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o'r cynfyd:
3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a'i nerth, a'i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.