41 Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42 Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:
44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.
45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.