45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.
48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.
49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50 Cymhwysodd ffordd i'w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: