54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i'r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
58 Digiasant ef hefyd â'u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â'u cerfiedig ddelwau.
59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;