59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw y gelyn.
62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a'u morynion ni phriodwyd.
64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf; a'u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.