63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a'u morynion ni phriodwyd.
64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf; a'u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
66 Ac efe a drawodd ei elynion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.